Canolfan Owain Glyndwr CentreENGLISH  
 

Cymru Owain Glyndŵr

Bryn Glas, Pylallai

Mae union safle’r frwydr yn ansicr, er bod Astudiaeth Beilot Prosiect Meysydd Brwydrau Cymru’n casglu bod y brif wrthdaro, lle y bu lluoedd Mortimer yn symud ymlaen yn erbyn safle Glyndŵr, wedi digwydd ar lethrau Bryn Glas, ardal helaeth sy’n gorwedd i’r dwyrain, y gorllewin a’r de o Eglwys y Santes Fair, gyda’i hymyl ddeheuol yn cael ei ddiffinio’n fras gan ffordd y B4356 erbyn heddiw a’i hymyl ddwyreiniol yn cael ei ddynodi gan gyfadeilad maenorol Llys Pylallai. Fodd bynnag, gallai’r ymladd wedyn fod wedi ymledu ar draws ardal ehangach o lawer (yn enwedig ar ôl i luoedd y Saeson gael eu gyrru ar ffo) ac felly gallai fod wedi ymestyn ar draws llawer iawn o’r gorlifdir i’r de a’r de-orllewin o Bylallai, gan ymledu ar hyd glan ogleddol afon Llugwy.

Awgrymir safle posibl arall gan ddatganiad yn y Brut rhyddieithol Saesneg o ddechrau’r bymthegfed ganrif sy’n lleoli’r frwydr ar Fryn Du - Black Hill. Dyma’r enw sydd ar fryn cyfagos sy’n gorwedd i’r gogledd-orllewin o Fryn Glas. Er nad yw’n ymddangos bod unrhyw dystiolaeth ddogfennol nac o enwau lleoedd i gysylltu’r Bryn Du hwn â brwydr Pylallai, yn sicr nid yw’n amhosibl y gallai’r ymladd fod wedi ymestyn i’r gogledd ac i mewn i’r ardal dan sylw.

Disgrifir y frwydr mewn sawl ffynhonnell ar y pryd neu tua’r un adeg sy’n wahanol o ran ei gynnwys a’i fanylder, er eu bod i’w gweld yn cytuno’n fras o ran prif fanylion y gwrthdaro a’r hyn a ddigwyddodd yn ei sgil. Mae adroddiadau’n disgrifio sut, wrth i ddynion Mortimer a thenantiaid Maelienydd gyfarfod â Mortimer, y buont yn symud ymlaen tuag at luoedd Glyndŵr a oedd yn meddiannu safle ar ben bryn ond bod y garfan o filwyr o Faelienydd yn sydyn wedi troi eu cotiau i gefnogi achos Glyndŵr. Golygai hyn fod llanw’r frwydr yn troi’n syth a chafodd Mortimer ei ddal.

Disgrifia’r croniclwyr sut y ‘gadawyd y celanedd o dan garnau’r ceffylau, yn ymdrybaeddu yn eu gwaed eu hunain, oherwydd bod claddu’n waharddedig am amser hir wedyn’, a sut, yn ôl tystiolaeth goroeswyr y fyddin Seisnig efallai, roedd gwragedd Cymru wedi torri ar y cyrff. Amrywia amcangyfrifon nifer y lladdedigion ar ochr y Saeson o 200 i 1100, ac mae’n anodd bwrw amcan o ran union faint y fyddin Gymreig na’r fyddin Seisnig, gan fod y ffynonellau’n sôn am ‘lu bychan o Gymry’ (cum paucis) neu am ‘haid’ neu ‘dyrfa’ (turba) a hefyd am ‘lu mawr o Wynedd, Powys a’r De’, a bod llu Mortimer yn cynnwys ‘bron pob aelod o filisia’r siroedd â ffiniai â Chymru’.

Ceir mynediad i Eglwys y Santes Fair Pylallai ac i’r hyn a gredir yw prif faes y gad ar lethrau Bryn Glas ar hyd llwybr da cymharol fyr sy’n disgyn o’r B4536 rhwng Llanandras a Monaughty i’r de-orllewin o Drefyclo – ffordd hawdd gyrru ar hyd-ddi. Ceir maes parcio gweddol o faint ac iddo arwyneb cadarn ger yr eglwys ynghyd â phanel lliw llawn gweddol newydd sy’n dehongli’r frwydr. Ceir arwyddion i faes y frwydr o’r briffordd ar hyd y llwybr. Mae’r eglwys yn agored drwy’r adeg ac mae’n cynnwys rhai erthyglau a phapurau am y frwydr sydd wedi’u trefnu’n anffurfiol i ymwelwyr eu darllen. Safai rhannau sylweddol o’r eglwys ar adeg y frwydr (y rhan fwyaf o’r tŵr) ac fe ddichon i’r adeilad chwarae rhan yn ystod y frwydr cyn iddi gael ei losgi gan Glyndŵr! Mae’r fynwent yn cynnwys cofeb ddiweddar i’r rhai a syrthiodd ar faes y gad a chynhelir gwasanaeth coffa bob blwyddyn ar ben blwydd y frwydr.

Bryn Glas o Glawdd Offa
Image © Copyright Graham Horn and licensed for reuse under this Creative Commons Licence

Gellir gweld yn hawdd o bell, wrth deithio o Pembridge tua’r dwyrain, y sgwaryn o dir lle y tyf clwstwr o goed welingtonia sy’n cynnwys pentyrrau o esgyrn y credir iddynt fod yn olion llawer o’r rheini a laddwyd yn y frwydr. Gellir cyrraedd llethrau serth Bryn Glas ei hun lle y digwyddodd llawer o’r ymladd, ar hyd llwybr sy’n arwain o’r maes parcio trwy’r fynwent.
logo CADW a LlCC
Noddwyr y Ganolfan gan CADW a Llywodraeth Cynulliad Cymru