Canolfan Owain Glyndwr CentreENGLISH  
 

Cymru Owain Glyndŵr

Pennal


Nodir mai ‘ym Mhennal’ yr ysgrifennwyd y llythyr gan Owain Glyndŵr at y Brenin Siarl o Ffrainc, heb unrhyw arwydd pellach o ran llys na siawnsri. Sonnir yn y llythyr iddo gael ei ysgrifennu o ganlyniad i drafodaethau mewn cyngor a alwyd gan Owain Glyndŵr a oedd yn cynnwys ‘pendefigion ein hil, esgobion ein Tywysogaeth ac eraill a alwyd i’r perwyl.’ Ni ymddengys fod unrhyw reswm dros amau mai Pennal yn ne Gwynedd yw’r lleoliad, sydd bellach yn bentref bach ger glan ogleddol afon Dyfi.

Cyn y goresgyniad Edwardaidd, un o lysoedd tywysogion Gwynedd fu Pennal. Roedd 21 o’r llysoedd hyn yng Ngwynedd (gan gynnwys Ynys Môn) ac roedd o leiaf un ar ddeg yn gysylltiedig â mwnt (cloddwaith castell) gan gynnwys Pennal.

Mae’n debygol bod Glyndŵr a’i osgordd wedi gwneud eu ffordd i Bennal oherwydd mai tir brenhinol ydoedd a oedd yn gysylltiedig â llinach y Gwynedd gyn-Edwardaidd, rhan o’r etifeddiaeth Gymreig frenhinol a hawliwyd gan Glyndŵr, ac oherwydd ei leoliad cyfleus ger croesfan ar draws un o brif afonydd gorllewin Cymru.

Awgrymir bod cyfleustra croesfan afon yn ystyriaeth bwysicach na goroesiad tir brenhinol fel lleoliad ar gyfer unrhyw gyfarfod, yn yr un modd ag y seliwyd y Magna Carta yn Runnymede ac nid yn Windsor. Fodd bynnag, mae hefyd yn bosibl mai canolbwynt yr amser a dreuliodd yno oedd yr ardal ger gweddillion y mwnt, Y Domen Las. Fodd bynnag, nid yw’n glir a oedd unrhyw adeiladau’n dal i sefyll ar gyfer gosgordd Glyndŵr. Mae’n bosibl bod rhyw fath o bafiliwn dros dro wedi’i godi. Eto, mae’n debygol bod pentref eisoes yn bodoli ac felly hwyrach bod rhai o’i adeiladau wedi cael eu defnyddio at wasanaeth y parti brenhinol. Mae’n debygol y byddai’r parti brenhinol wedi mynychu’r offeren yn yr eglwys ac mae’n weddol sicr mai adeilad oedd hwn a safai ar yr un fan â’r eglwys bresennol neu wrth ei hymyl, er nad oes unrhyw gyfeiriad at yr eglwys ei hun yn llythyr Pennal.

Mae Pennal, ei fwnt a’i lys, ei eglwys ac anheddiad ei bentref felly’n gysylltiedig ag ysgrifennu dogfen unigol bwysicaf y gwrthryfel, Llythyr Pennal, er na ellir dynodi’r union leoliad lle y cafodd ei ysgrifennu.

Pennal o\'r de-ddwyrain
Image © Copyright Nigel Brown and licensed for reuse under this Creative Commons Licence
Mae’r pentref dymunol hwn yn gorwedd ar briffordd yr A493 rhwng Machynlleth a Thywyn ac fe’i lleolir mewn ardal Gymreigaidd iawn, sydd heb fod ymhell o’r cyrchfannau eraill sy’n gysylltiedig â Glyndŵr – Canolfan Owain Glyndŵr ym Machynlleth, Castell Aberystwyth a Chastell Harlech. Mae Eglwys Sant Pedr mewn Cadwyni neu Sant Pedr ad Vincula yn falch o’i chysylltiadau ag ysgrifennu llythyr Pennal, un o’r dogfennau mwyaf arwyddocaol yn hanes y genedl Gymreig. Mae’r eglwys yn agored 365 o ddiwrnodau’r flwyddyn.

Llythyr Pennal
logo CADW a LlCC
Noddwyr y Ganolfan gan CADW a Llywodraeth Cynulliad Cymru