Canolfan Owain Glyndwr CentreENGLISH  
 

Cymru Owain Glyndŵr


Cychwynnodd gwrthryfel Owain Glyndŵr yn ystod 1399 a 1400 ar ffurf anghydfod lleol â’i gymydog pwerus, Syr Reginald de Grey. Asgwrn y gynnen oedd darn o dir comin yr honnai Glyndŵr i Grey ei ddwyn oddi arno ac apeliodd i’r brenin newydd, Harri IV, am gyfiawnder ond yn ofer. Ar ôl apelio droeon a phob cais yn cael ei anwybyddu, cododd Glyndŵr ei faner y tu allan i Ruthun 16 Medi 1400, gan ei gyhoeddi’i hun i bob perwyl yn rebel.

I’r Cymry a’i dilynodd, fodd bynnag, arweinydd symbolaidd mudiad gwrthsafol a drodd yn wrthryfel cenedlaethol eang oedd Owain Glyndŵr. Nid ef oedd yr unig un a chanddo gwynion yn erbyn arglwyddi trachwantus a thrahaus y Mers, megis Grey. Roedd llawer o Gymry wedi profi rhwystredigaeth debyg ers tro yn sgil llywodraeth ormesol ac anghyfiawn Lloegr. Heidiai dynion o’r fath at faner Owain ac erbyn 1401, roedd y gwrthryfel wedi ymledu fel tân eithin ar hyd ac ar led Cymru.

(Testun wedi’i addasu o Gwyn A. Williams, When Was Wales, Llundain, 1985)

Ceir manylion am rai o’r lleoedd arwyddocaol yng ngwrthryfel Glyndŵr isod. Dilynwch y dolenni i ddysgu rhagor.


1 Castell Aberystwyth
Cipiwyd gan byddin Owain yn 1404
2 Glyndyfrdwy
Llys Owain, lle y cyhoeddwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru yn 1400
3 Hanmer
Eglwys lle priodwyd Owain
4 Castell Harlech
Cipiwyd gan Owain yn 1404, a lleoliad ei ail senedd
5 Hyddgen
Buddugoliaeth mawr cyntaf Owain yn 1401
6 Machynlleth
Lle y coronwyd Owain yn 1404
7 Pennal
Lleoliad o ble ysgifennodd Owain at Frenin Ffrainc
8 Pilleth
Buddugoliaeth Owain ym mrwydr Bryn Glas yn 1402
9 Sycharth
Prif lys Owain Glyndŵr

logo CADW a LlCC
Noddwyr y Ganolfan gan CADW a Llywodraeth Cynulliad Cymru