Canolfan Owain Glyndwr CentreENGLISH  
 

Cymru Owain Glyndŵr

Brwydr Hyddgen


Canlyniad buddugoliaeth Glyndŵr dros luoedd y brenin yn Hyddgen yn haf 1401 oedd ei droi o fod yn rebel lleol i fod yn arweinydd cenedlaethol. Nid yw union leoliad brwydr Hyddgen yn hysbys, ond y safle mwyaf tebygol yw’r drum uchel mewn ardal anghysbell i’r gorllewin o Bumlumon Fawr. Ni wyddom ryw lawer am y frwydr ond enillodd Glyndŵr fuddugoliaeth bwysig yn erbyn niferoedd llethol a oedd yn cynnwys lluoedd o dras Fflemaidd-Gymreig o Sir Benfro’n bennaf.

Ym Maes Nant y ceir y ffordd agosaf i Hyddgen ac o’r fan honno mae lôn drol yn arwain o’r de i’r gogledd. Hwn, efallai, oedd y llwybr a ddilynwyd gan y lluoedd mawr o Sir Benfro ar eu ffordd i frwydro yn erbyn y fyddin lai o lawer a arweinid gan Glyndŵr a arhosai amdanynt yng ngwersyll tebygol Glyndŵr yn Siambr Trawsfynydd.

Mae’r tir o gwmpas y drum ger Pumlumon Fawr yn gorsiog, fel y buasai yn y bymthegfed ganrif ac mae’n debyg y byddai’r afon gerllaw hefyd o bwysigrwydd strategol yn y frwydr.

Heneb byddgoliaeth Owain Glyndwr yn Hyddgen
Image © Copyright Jeff Tomlinson and licensed for reuse under this Creative Commons Licence

Dywedir mai dwy garreg wen fawr o’r enw Meini Cyfamod Glyndŵr sy’n dynodi safle’r frwydr ond nid yw hyn yn debygol wrth ystyried y dirwedd. Gellir eu cyrraedd trwy fynd i’r chwith o’r llwybr a chroesi’r nant a’r ffens.

Yn ôl y traddodiad mae meirwon y frwydr wedi’u claddu yn Esgair y Ffordd, ychydig i’r gogledd o faes y gad ac wedi’i nodi â charnedd.

(mae’r testun wedi’i addasu o erthygl ar Hyddgen gan John Morgan, Cerddwyr Aberystwyth)
logo CADW a LlCC
Noddwyr y Ganolfan gan CADW a Llywodraeth Cynulliad Cymru