Canolfan Owain Glyndwr CentreENGLISH  
 

Cymru Owain Glyndŵr

Castell Harlech


Cipiwyd y gaer Edwardaidd gadarn yn Harlech gan luoedd Owain Glyndŵr yn 1404, ac ym mis Awst 1405, cynhaliodd ei ail senedd yno – lleoliad addas i un a oedd wedi’i gyhoeddi ei hun yn Dywysog Cymru. Yn ystod y cyfnod y bu’r castell yn ei ddwylo, sefydlodd ei lys a chartrefodd ei deulu yno gan ‘reoli’ Cymru o Harlech.

Fel yn Aberystwyth, defnyddiodd y gwarchaewyr o dan arweiniad y Tywysog Hal fagnelau, er heb fawr o effaith. Yn y pen draw syrthiodd y castell i’r gwarchaewyr ar ddyddiad amhenodol yn hydref 1408 neu’n gynnar yn 1409. Yn ystod y gwarchae, llwgodd Edmund Mortimer, mab-yng-nghyfraith Glyndŵr, a llawer o’r amddiffynwyr eraill i farwolaeth yn hytrach nag ildio i luoedd y Tywysog.

Mae’r castell yn Harlech yn gyrchfan ymwelwyr ers tro oherwydd ei faint a chyflwr nodedig yr adfeilion, ei safle ysblennydd ar graig yn edrych dros y môr a’i leoliad yng nghanol tref Harlech. Dyma ganolbwynt y dre a chyda golygfeydd eang dros yr Wyddfa ac Eryri ar hyd yr arfordir i’r de ac allan dros y môr, fe’i hystyrir yn un o gestyll hynotaf Edward I.

Y fflodiard a’r grisiau cysylltiedig rhwng y castell a’r môr pan oedd lefel y môr yn uwch nag y mae erbyn heddiw, yw un o nodweddion y castell y mae ymwelwyr yn ei gweld yn arbennig o ddiddorol. Mae’r sioeau ail-greu a gynhelir o fewn muriau’r castell yn ystod misoedd yr haf yn boblogaidd, yn enwedig gyda theuluoedd.

Castell Harlech
Image © Copyright Eirian Evans and licensed for reuse under this Creative Commons Licence

Lleolir Harlech yng nghanol un o gadarnleoedd y Gymraeg ar lan traeth tywod euraid helaeth heb ei ail. Tref fechan a thlos yw hi’n llawn rhiwiau serth a cheir ynddi nifer o siopau anrhegion a chaffis.

Mae’r cysylltiadau trên a bws yn ardderchog ac mae heb fod yn rhy bell i’r gogledd o gyrchfannau eraill sy’n gysylltiedig â Glyndŵr ym Machynlleth, Pennal a chastell Aberystwyth.




logo CADW a LlCC
Noddwyr y Ganolfan gan CADW a Llywodraeth Cynulliad Cymru