Canolfan Owain Glyndwr CentreENGLISH  
 

Cymru Owain Glyndŵr

Glyndyfrdwy


Safle mwnt ac amffosog yw Glyndyfrdwy lle y cyhoeddodd Owain Glyndŵr ei hun yn Dywysog Cymru. Saif y mwnt yng Nghymuned Corwen yn Sir Ddinbych ac mae’n heneb gofrestredig. Mae’r mwnt yn 6.5m o uchder, 36m mewn diamedr wrth ei odre ac yn 12m mewn diamedr ar y brig ac mae dŵr o hyd yn llenwi rhan o’r amffos.

Mae mwnt yn awgrymu presenoldeb milwrol Normanaidd yma yn yr unfed ganrif ar ddeg ac mae creu dyfrffos sy’n ddigon mawr i amgáu annedd o’r fath yn awgrymu bod y preswylwyr yn gyfarwydd â phatrwm y tai amffosog a oedd yn gyffredin ymhellach i’r dwyrain, ym Maelor Saesneg, er enghraifft, lle y maent yn dyddio o’r deuddegfed i’r bedwaredd ganrif ar ddeg.

Mae’r Tywysog Hal yn disgrifio sut y cyrhaeddodd ‘Glyndourdy’ â’i luoedd gan losgi ‘porthdy braf yn ei barc…ac anrheithio’r wlad o gwmpas’ ar ôl llosgi Sycharth:

“Et puis nous enalasmes droit a son autre place de Glyndourdy, pour lui querer illoques, et la nous fismes ardre un beau logge en son parc, et toute la paiis la entour”

Ar yr unfed ar bymtheg o fis Medi 1400, cyhoeddodd Owain Glyndŵr ei hun yn Dywysog Cymru yng Nglyndyfrdwy yng nghwmni rhai o’i deulu agosaf, nifer o gyfeillion o Sycharth a Wrecsam, Deon Llanelwy a’i broffwyd neu’i weledydd personol ynghyd â mintai o werin bobl y fro. Cyfanswm eu nifer oedd tri chant. O Lyndyfrdwy aeth Glyndŵr a’i gefnogwyr ar ymgyrch ddinistriol gan losgi Rhuthun, Dinbych, Rhuddlan, Y Fflint, Holt, Croesoswallt a’r Trallwng. Dyma gychwyn ei wrthryfel cenedlaethol yn erbyn coron Lloegr.

Safle\'re mwnt yng Nglyndyfrdwy
Image © Copyright Jeremy Bolwell and licensed for reuse under this Creative Commons Licence
Mae’r safle mwnt trawiadol hwn a’i amffos ar wahân yn gorwedd yn union rhwng yr A5, y briffordd i mewn ac allan o ogledd Cymru a Rheilffordd Stêm Llangollen. Mae’n hawdd mynd ato o Langollen a thref farchnad Corwen. Ar hyn o bryd, caiff ymwelwyr fynediad i’r safle naill ai trwy barcio ger gorsaf Carrog a cherdded ar hyd palmant ar ochr yr A5 neu drwy barcio mewn ardal barcio anffurfiol gyferbyn â’r safle a chroesi’r ffordd at y gamfa. O gyrraedd pen y mwnt, mae’n hawdd gwerthfawrogi ei leoliad dramatig a strategol mewn cysylltiad ag afon Dyfrdwy ac mae’r golygfeydd yn ystod y gaeaf pan fydd y coed heb ei ddail yn ychwanegu at yr apêl. Dynodir y safle’n glir fel ‘Mwnt Glyndŵr’ ger y gamfa a cheir panel dehongli wrth odre llethrau’r mwnt sy’n cyfleu rhywfaint o bwysigrwydd y mwnt ac sy’n egluro cynllun y safle. Nid yw’n bell o’i chwaer safle Sycharth na phentref Hanmer.

logo CADW a LlCC
Noddwyr y Ganolfan gan CADW a Llywodraeth Cynulliad Cymru