Canolfan Owain Glyndwr CentreENGLISH  
 

Cymru Owain Glyndŵr

Castell Aberystwyth


Cipiwyd Aberystwyth gan luoedd Owain Glyndŵr yn 1404. Buont hwythau yn eu tro dan warchae gan filwyr Tywysog Cymru, Dug Efrog ac Iarll Warwig yn 1407, lle y methodd magnelau lluoedd y Goron â gwneud fawr o argraff ar yr amddiffynwyr, er i belen ganon anafu William Gwyn ap Rhys Llwyd o Gydweli’n angheuol. Roedd gan Glyndŵr berthynas ers tro byd â Harri IV a bu cynnen bersonol hir rhyngddo â’r Tywysog Hal fel canlyniad y Gwrthrhyfel.

Ar ôl gwarchae a barodd sawl mis, penderfynodd yr amddiffynwyr y byddent yn ildio’r castell ar 1 Tachwedd (yn dilyn trafodaethau trwy Ganghellor Prifysgol Rhydychen), ond pan roddwyd y cynnig gerbron Glyndŵr, bygythiodd yntau ddienyddio pennaeth y Cymry a Glyndŵr ei hun a gymerodd drosodd yr amddiffyn.

Fodd bynnag, gwendid sylfaenol Glyndŵr oedd diffyg grym ar y môr ac, yn y diwedd, syrthiodd y castell i’r gwarchaewyr ar ddyddiad amhenodol yn hydref 1408 neu ar ddechrau 1409 ar ôl i’w cyflenwadau ddarfod. O’r adeg honno ymlaen, arweinydd guerilla yn unig oedd Glyndŵr.

Ceir rhai cyfeiriadau manwl at yr ymgyrch hon:

Ar 12 Ionawr, 1405, seliodd Owain Glyndŵr ei gytundeb â’r Ffrancwyr ‘in our castle in Llanpadarn.”'

Ymosododd y Tywysog Harri (Harri V) ar y castell gyda pheiriannau gwarchae a magnelau. Dyma un o’r troeon cyntaf i ganon gael ei ddefnyddio yng ngwledydd Prydain. Methodd y Saeson â chipio’r castell a chwynodd Harri y buasai’n rhaid iddo wystlo’i emwaith er mwyn talu costau’r gwarchae.

Ildiodd deiliaid y castell i’r Tywysog Harri ar 12 Medi 1408. Trosglwyddwyd Maredudd ab Owain (mab-yng-nghyfraith Rhys Ddu) yn wystl yn y gwarchae gyda Thomas ap Rhydderch. Rhys ap Gruffydd ap Llywelyn ab Ieuan (neu Jankyn) oedd un o’r penaethiaid Cymreig a fu’n gwarchod castell Aberystwyth ar ddiwedd y gwarchae. Bu Maredudd ab Owain ap Gruffydd ab Einion hefyd yn cefnogi Glyndŵr a bu’n rhaid iddo dalu £300 o bridwerth am wystlon a oedd wedi’u cipio i sicrhau y byddai castell Aberystwyth yn ildio.

Yn ystod y bymthegfed ganrif dim ond ychydig filwyr oedd yn gwarchod castell Aberystwyth (fel arfer un milwr arfog a 12 saethwr). Ar ôl i’r castell gael ei adennill o ddwylo Owain Glyndŵr gan y Saeson, ni châi ei gynnal na’i gadw’n dda. Gallai dyn arfog olygu un dyn â chleddyf a thri saethwr.

Castell Aberystwyth
Image © Copyright Ray Jones and licensed for reuse under this Creative Commons Licence

Hawdd yw cerdded at y castell o ganol tref Aberystwyth, ac fe saif o fewn tafliad carreg i adeiladau glan môr y brifysgol ar lwybr sy’n rhedeg ar hyd y promenâd. Tref hynod Gymreigaidd yw Aberystwyth, sydd yn gorwedd entre Bae Ceredigion a'r mynyddoedd, ac sydd eisoes yn gyrchfan dwristaidd ddiwylliannol gydnabyddedig.

Mae cysylltiadau trên a bws rhagorol â’r dref ac mae’n rhwydd ei gyrraedd o gyrchfannau eraill sy’n gysylltiedig â Glyndŵr ym Mhennal a Machynlleth, a gellir cyrraedd yno mewn diwrnod wrth deithio i’r de o gastell Harlech. Mae'r daith tren rhwng Harlech, Machynlleth ac Aberystwyth yn blesur unigryw a phrydferth am ymwelwyr.

logo CADW a LlCC
Noddwyr y Ganolfan gan CADW a Llywodraeth Cynulliad Cymru