Canolfan Owain Glyndwr CentreENGLISH  
 

Llythyr Pennal

Ysgrifenwyd Llythyr Pennal yn Lladin in 1406 ac yr oedd ymgrych ar rhan Owain i gryfau ei sefyllfa trwy creu partneriaeth gyda'r Brenin Ffrainc, Charles VI. O'r diben hon, datganwyd Owain ei ffyddlondeb i Bab Avignon, Benedict XIII. Yr oedd y babaeth yn y cyfnod hwn wedi ymrannu; yr oedd brenin Ffrainc, Charles VI o blaid Phab Avignon ac Henry IV o Loegr o blaid Pab Rhufain. Gyda ei ddatganiad, Owain oedd yn gwneud yn glir ei fod, fel Tywysog Cymru, wedi gwrthod yn llwyr Brenhiniaeth Loegr. Yn y llythyr mae'n gosod ei amcanion am Eglwys Cymreig a ddwy briysgolion yng Nghymru, sefydliadau angenrheidiol i'w weledigaeth o wlad gryf ac annibynol.

Mae Llythyr Pennal, a lleolir yn Archifdy Genedlaethol Ffrainc (J516 B. 40 a J516.29), mewn dwy ran: yn y rhan gyntaf, mae Owain yn datgan ei fuddhad i Bab Avignon; dogfen swyddogol yw'r ail ran, sydd yn dwyn sêl fawr Owain, ac y mae'n gosod telerau ei deyrngarwch ac adroddiad ar ymraniad yn y babaeth.

Y mae'r gyfiethiad hon o Matthews 1910.

Rhan Un

Ardderchocaf dywysog, yr ydych wedi ei hystyried yn deilwng, ar sail yr anogaeth a anfonwyd, i ddysgu sut y gormeswyd ar fy nghenedl dros lawer blwyddyn a aeth heibio, gan lid y Sacsoniaid barbaraidd; ac am fod ganddynt lywodraeth drosom, ac yn wir oherwydd hynny, yr oedd yn ymddangos yn rhesymol iddynt ein sathru dan draed. Ond yn awr, ardderchocaf dywysog, yr ydych trwy lawer ffordd, o’ch daioni cynhenid wedi fy hysbysu i a’m deiliaid yn eglur ac yn rasol iawn ynghylch cydnabod gwir Ficer Crist. Yr wyf fi yn wir yn gorfoleddu â’m holl galon ar bwys y wybodaeth hon gan eich ardderchowgrwydd; ac oherwydd fy mod wedi deall trwy hyn fod yr arglwydd Benedict, y pab goruchel, yn bwriadu gweithio â’i holl nerth i greu undeb o fewn Eglwys Dduw. Gyda phob hyder yn ei hawl, a chan fwriadu cytuno â chwi hyd y gallaf, yr wyf yn ei gydnabod ef yn wir Ficer Crist, ar fy rhan fy hun, ac ar ran fy neiliaid trwy’r llythyron agored hyn, i’w cyflwyno yng ngŵydd eich mawrhydi gan eu cludydd; ac o achos, ardderchocaf dywysog, y gorfodwyd eglwys archesgobol Tyddewi, trwy drais gan ddicter barbaraidd y sawl a deyrnasai yma, fel yr ymddengys, i ufuddhau i eglwys Caer-gaint, a’i bod yn aros yn y darostyngiad hwn hyd heddiw. Dioddefodd eglwys Cymru lawer anfantais arall trwy law’r barbariaid hyn, fel y gosodir allan yn llawnach yn y llythyron agored sy’n cyd-fynd â’r rhain. Erfyniaf yn daer ar eich mawrhydi i beri anfon y llythyron hyd at yr arglwydd y goruchaf bab, fel, gan eich bod wedi gweld yn deilwng ein codi o dywyllwch i oleuni, y byddwch yn yr un modd yn dymuno dinistrio a dileu trais a gormes yr eglwys a’m deiliaid, yn ôl eich gallu digonol. A bod i Fab yr ogoneddus Forwyn hir gadw eich mawrhydi yn yr hawddfyd a addewir.
Owain Glyndwr, Tywysog Cymru

Ysgrifennwyd ym Mhennal, ddiwrnod olaf Mawrth.
Yr eiddoch trwy adduned
Owain tywysog Cymru
Ar gefn y llythyr:
At yr ardderchocaf o hyglod dywysog, yr arglwydd Siarl, trwy ras Duw, brenin Ffrainc.

tudalen nesaf >>

logo CADW a LlCC
Noddwyr y Ganolfan gan CADW a Llywodraeth Cynulliad Cymru