Canolfan Owain Glyndwr CentreENGLISH  
 

Llythyr Pennal


(Rhan Ddwy)

At yr hyglod dywysog, yr arglwydd Siarl, trwy ras Duw, brenin y Ffrancwyr, y mae Owain trwy’r un gras yn anfon gydag anrhydedd y parch y mae tywysog o’r fath fri yn ei deilyngu. Bydded hysbys i’ch ardderchogrwydd ein bod wedi derbyn gennych ein herthyglau a ysgrifennir isod a gyflwynwyd inni gan Hugh Eddouyer, a Urdd Sant Dominic, a Maurice Kerry, ein cyfeillion a’n negeswyr ar yr wythfed dydd o Fawrth ym mlwyddyn ein Harglwydd 1406, yn ôl y ffurf a’r perwyl a ysgrifennir isod:

Yn y lle cyntaf maent yn mynegi i’r dywededig arglwydd y tywysog gyfarchiad gwresog ar ran ein harglwydd y brenin a thrwy ei lythyron hyn. Y mae ein harglwydd y brenin yn dymuno’r fawr wybod am ei ystâd ac am lwyddiant eu trafodaethau, ac y mae’n gofyn iddo ysgrifennu mor aml ac y gall, yr hyn a rydd iddo bleser mawr; a bydd yn sôn wrtho’n fanwl am ystâd y dywededig arglwydd, y brenin, y frenhines a’u plant a’r arglwyddi eraill a’r tywysogion brenhinol; ac fel y mae gan ein harglwydd y brenin a’r tywysogion brenhinol eraill serch didwyll a chyfeillgarwch gwresog at y dywededig dywysog, ynglŷn â sêl dros ei anrhydedd, ei ystâd dda a’i ffyniant, ac yn hyn gall y dywededig arglwydd dywysog lwyr ymddiried.

Maent hefyd yn esbonio i’r un arglwydd, y tywysog, sut y mae ein harglwydd y brenin, sy’n ei barchu’n ddidwyll ac yn gariadus, yn awyddus iawn, gan eu bod wedi eu clymu a’u huno mewn materion ysbrydol a phethau eglwysig, iddynt allu cerdded gyda’i gilydd yn nhŷ yr Arglwydd. Y mae’r arglwydd frenin hefyd yn gofyn i’r un arglwydd dywysog ystyried yn ffafriol hawliau’r arglwydd bab Benedict XIII, goruchaf bab yr eglwys gyffredinol, ac y bydd iddo ddysgu a pheri I’I holl ddeiliaid ddysgu; mae’r arglwydd frenin yn dal ei bod er lles ei enaid ac eneidiau ei ddeiliaid, ac er diogelwch a sicrwydd ei ystad, ac y bydd eu cyfamod wedi ei seilio’n gadarnach ac yn fwy dilys ym mantais ffydd ac yng nghariad Crist. Eto y mae pob Cristnogion ffyddlon i’w haddysgu eu hunain am wirionedd ymraniadau, ond o blith pawb, delir mwy ar dywysogion, oherwydd gall eu barn hwy arwain llawr ar gyfeiliorn, yn enwedig eu deiliaid sydd yn rhwym o gydymffurfio â barn eu gwell. Y mae hefyd er eu budd, yn rhinwedd eu dyletswydd, i ofalu trwy bob ymdrech y bydd ymraniadau felly yn cael eu dileu a’r eglwys yn cael undod yn Nuw. Ac oherwydd y dylai ef sy’n wir Ficer Crist gael ei adnabod a’i dderbyn gan yr holl ffyddloniaid yng Nghrist, tra dylai ef sy’n ymwthiwr, ac y gwyddys iddo trwy ddulliau ysgeler drawsfeddiannu’r esgobaeth apostolaidd sanctaidd, gael ei ymlid a’i daflu o’r neilltu gan yr holl ffyddloniaid fel anghrist. Ac I’r diben hwn dylent ymrwymo i ymdrechu hyd yr eithaf yn unol â gorchmynion y tadau sanctaidd, at ba nod y mae’r dywededig arglwydd frenin wedi llafurio nid heb gryn gost ac yn dal i lafurio’n ddiflino.

Yn unol â thrafodaethau ein cyngor galwyd ynghyd uchelwyr ein hil ac esgobion ein tywysogaeth ac eraill a gynullwyd at y pwrpas hwn, ac o’r diwedd wedi archwilio a thrafod yn fanwl yr erthyglau uchod a’u cynnwys gan yr esgobion a’r clerigwyr, cytunir yn derfynol, gan ymddiried yn hawliau’r arglwydd Benedict, y pab sanctaidd goruchel Rhufeinig dros yr eglwys gyffredinol, yn enwedig am iddo geisio heddwch ac undod yr eglwys, a’i fod yn dal i’w ceisio yn ddyddiol yn ôl a ddeallwn, ac o ystyried gweithred galed gwrthwynebydd yr un Benedict yn rhwygo mantel diwnïad Crist, ac o’r cariad didwyll sydd gennym tuag at eich mawrhydi yn arbennig, bod y dywededig arglwydd Benedict I’w gydnabod yn wir Ficer Crist yn ein tir gennym ni a’n deiliaid, ac yr ydym trwy hyn yn ei gydnabod.

Ac o achos bod yr erthyglau isod, ardderchocaf dywysog, yn ymwneud yn arbennig â diwygiad a budd Eglwys Cymru, erfyniwn ar eich mawrhydi brenhinol yn rasol i’w hystyried yn deilwng o’i hyrwyddo gerbron y dywededig arglwydd Benedict:

Yn gyntaf, os oes cerydd eglwysig yn ein herbyn ni, ein deiliaid, neu ein tir gan y dywededig arglwydd Benedict neu Clement ei ragflaenydd, yn sefyll, y bydd y dywededig Benedict yn ei ddileu.

Eto, y bydd unrhyw Iwan o ba fath bynnag gennym ni neu bwy bynnag arall o’n tywysogaeth
i’r sawl a’i galwai eu hunain Dwrban neu Benfas, a fu farw’n ddiweddar, neu i’w dilynwyr, yn cael eu maddau.

Eto, y bydd yn cadarnhau ac yn dilysu’r gorchymynion, y cyflwyniadau, hawliau esgobion, trwyddedau, dogfennau nodiadur, a phob peth arall, o amser Gregori Xi, o ba rai y gall ddigwydd unrhyw niwed i’n heneidiau neu anfantais i ni neu ein deiliaid.

Eto, y bydd i Eglwys Tyddewi gael ei hadfer i’w hurddas gynhenid fel y bu o amser Dewi Sant, archesgob a chyffeswr yr eglwys archesgobol, ac wedi ei farwolaeth esgynnodd i’r un lle bedwar archesgob ar hunain, fel y ceir eu henwau yng nghroniclau a llyfrau hynafol eglwys Mynyw, a gwnawn fynegi’r rhain yn brawf, sef, Eliud, Ceneu, Morfael, Mynyw, Haerwnen, Elwaed, Gwrnwen, Llewdwyd, Gwrwyst, Gwgawn, Glydâwg, Aman, Elias, Maeslyswyd, Sadwrnwen, Cadell, Alaethwy, Novis, Sadwrnwen, Drochwel, Asser, Arthwael, Dewi yr ail, a Samson; ac fel eglwys archesgobol y bu ganddi ac y dylai gael yr eglwysi isod yn ddarostyngedig iddi, sef Caer-esg, Caerfaddon, Henffordd, Caerwrangon, Caerlŷr, yr hon esgobaeth a symudwyd i eglwysi Cwyntry a Chaerlwytgoed, Llanelwy, Bangor a Llandaf;
oherwydd trwy ymosodiadau gorffwyll y Sacsoniaid barbaraidd, a drawsfeddiannodd iddynt eu hunain dir Cymru a disodli eglwys Tyddewi, fe’i gwnaethpwyd yn llawforwyn i eglwys Caer-gaint.

Eto y bydd i’r un arglwydd Benedict ddarparu i eglwys archesgobol Tŷ Ddewi ac eglwysi cadeiriol eraill ein tywysogaeth, esgobion, urddasolion, clerigwyr a churadiaid sydd o leiaf yn hyddysg yn ein hiaith.

Eto, y bydd i’r dywededig arglwydd Benedict ddileu a dirymu pob corfforiad, undeb a meddiannu o eglwysi plwyf yn ein tywysogaeth gan fynachlogydd a cholegau’r Saeson hyd yma, ac y bydd i wir noddwyr yr eglwysi hyn gael eu galluogi i gyflwyno i ordinariaid y lleoedd hynny bersonau addas neu benodi eraill.

Eto, y bydd i’r dywededig arglwydd Benedict ganiatáu i ni ac i’n disgynyddion, tywysogion
Cymru, y bydd ein capelau a’u tebyg yn rhydd ac yn mwynhau’r breintiau, yr esgusodiadau a’r trwyddedau yr oeddynt yn eu mwynhau yn amser ein cyndeidiau, tywysogion Cymru.

Eto, y bydd i ni gael dwy brifysgol neu leoedd astudio cyffredinol, sef un yng Ngogledd Cymru a’r llall yn Ne Cymru, mewn dinasoedd, trefi neu leoedd i’w pennau a’u cyhoeddi gan ein llysgenhadon i’r pwrpas hwn.

Eto, y bydd i’r arglwydd Benedict gondemnio yr heretic a pheri arteithio yn y ffordd arferol Henry o Lancaster, ymwthiwr i deyrnas Lloegr a thrawsfeddiannwr ei choron, a’i ddilynwr, am iddo o’i wirfodd losgi neu beri llosgi cynifer o eglwysi cadeirio, lleiandai, ac eglwysi plwyf, a’i fod yn annynol wedi crogi, dienyddio a phedwaru archesgobion, esgobion, offeiriad a mynachod fel petaent yn ynfydion neu’n gardotwyr.

Eto y bydd i’r un arglwydd Benedict ganiatáu i ni, ein hetifeddion, ein deiliaid a’u dilynwyr, o ba genedl bynnag y bônt, sydd yn rhyfela yn erbyn y dywededig ymwthiwr a
thrawsfeddiannwr, cyhyd ag y daliont y ffydd uniongred, faddeuant llawn am ein holl
bechodau, a bod y maddeuant i barhau tra pery’r rhyfel rhyngom ni, ein hetifeddion a’n
deiliaid, a’r dywededig Henry, ei etifeddion a’i ddeiliaid.

Yn dystiolaeth o hyn gwnaethom ein llythyrau hyn yn agored. Rhoddwyd ym Mhennal ar ddydd olaf Mawrth, ym mlwyddyn ein Harglwydd 1406 ac yn chweched flwyddyn ein ternasiad.

Owain Glyndwr, Tywysog Cymru

Ar y cefn:
Y llythyr trwy ba un y darostyngodd Owain, tywysog Cymru, ei hunan, ei diroedd a’i diriogaeth i awdurdod ein harglwydd y pawb [Benedict] XIII.

<< tudalen blaen

logo CADW a LlCC
Noddwyr y Ganolfan gan CADW a Llywodraeth Cynulliad Cymru