Canolfan Owain Glyndwr CentreENGLISH  
 

Murlun Urquhart


Murlun Frwydr Hyddgen, gan Murray Urquhart
Murlun Frwydr Hyddgen, gan Murray Urquhart
Cliciwch am ddelwedd fwy

Un o nodweddion pwysicaf y Senedd dy yw murlun gan yr arlunydd o'r Alban, Murray McNeel Caird Urquhart (1880 - 1972) sydd yn dangos golygfeydd o fywyf Owain Glyndŵr.

Y murlun yma yw'r unig un mawr mewn adeilad cyhoeddus yng Nghymru cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'n cynnwys 4 panel mawr yn portreadu digwyddiadau o bwys yn ymgyrch Owain Glyndŵr. Mae dau banel yn dangos y frwydr a ymladdwyd yn Hyddgen, ar lethrau Pumlumon. heb fod ymhell o Fachynlleth ym Mehefin 1401. Mae'r ddau banel arall yn dangos y Cymry yn ymosod ar gastell.

Rhan o Furlun Urquhart ar ôl adferiad
Rhan o Furlun Urquhart ar ôl adferiad
Cliciwch am ddelwedd fwy
Paentiodd Urquhart y murlun rhwng 1912 a 1914 ar ôl astudio'i grefft yng Nghaeredin, Llundain a Paris. Nid yw'n amlwg pam gafodd ei gomisiynu i wneud y murlun, ond mae'n bosibl bod y chwiorydd Davies, Gwendolen a Margaret wedi dylanwadu ar y dewis. Eu brawd, David Davies oedd yr Aelod Seneddol lleol, ac ef roddodd yr arian i wella'r cyfleusterau yn y Senedd dy. Mae'n debyg ei fod yn edmygu Glyndŵr ac wedi mynnu bod wyneb Glyndŵr ar y murlun, yn debyg i'w un ef.

Mae'n debyg hefyd bod Syr O M Edwards wedi cael rhywfaint o ddylanwad ar y gwaith. Mewn llythyr ato, disgrifiodd Urquhart rhan o'r gwaith: "Rwyf wedi cynrychioli Glyndŵr yn arwain torf o'i filwyr,y rhan fwyaf ohonynt wedi eu gwisgo fel gwerinwyr. Mae hyn yn tanlinellu'r hyn yr ydych wedi pwysleisio i mi - yr oedd yn arweinydd ac arwr y bobl gyffredin."

Cath Haslam yn gweithio ar y murlun
Cath Haslam yn gweithio ar y murlun
Cliciwch am ddelwedd fwy
Diolch i grant CADW yn 2010, adferwyd y murlun gan Cath Haslam a bellach gellir ei weld unwaith eto yn ei lawn ogoniant.
logo CADW a LlCC
Noddwyr y Ganolfan gan CADW a Llywodraeth Cynulliad Cymru