Canolfan Owain Glyndwr CentreENGLISH  
 

Owain Glyndŵr


Er bod 600 mlynedd wedi mynd heibio ers cyfnod Owain Glyndŵr, mae’n parhau i fod yn un o brif arwyr Cymru. Roedd yn arweinydd naturiol ac yn wladweinydd craff a unodd bobl Cymru a’u harwain yn erbyn rheolaeth Lloegr. Ers marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf yn 1282, roedd nifer o agweddau ar reolaeth y Saeson oedd yn creu anfodlonrwydd ymhlith y Cymry ac Owain oedd y dyn a drodd yr anfodlonrwydd yn wrthryfel cenedlaethol.

Cawn gipolwg ar barch Glyndŵr at y gweithwyr trwy eiriau Iolo Goch, i bob pwrpas ei fardd llys. Yn ei bennill i’r aradrwr dywed “Nid bywyd, nid byd heb ef.” Dychwelodd nifer o weithwyr Cymreig o Loegr i gefnogi Glyndŵr.

Bywyd Cynnar


Nid ydym yn sicr pryd na lle y ganed Owain Glyndŵr. Y dyddiadau mwyaf tebygol yw 1349,1354 neu 1359. Y tebycaf yw iddo gael ei eni yng nghartref y teulu yn Sycharth neu, fel mae rhai yn honni, yn Nhrefgarn, Sir Benfro, yng nghartref teulu ei fam. Roedd gan ei deulu ystadau yn Sycharth, Iscoed yn Nyffryn Teifi a Glyndyfrdwy. Trwy deulu’r fam y cafodd Iscoed ei etifeddu a disgrifiwyd Glyndyfrdwy fel “porthordy braf yn y parc.” Mae’n debyg iddo dreulio llawer o’i blentyndod yn Sycharth, ger Croesoswallt.

Tras Owain


Roedd tras yn dra phwysig yng Nghymru yn y 14eg ganrif ac roedd llinach Owain yn ddilychwin, sef Tywysogion Gwynedd oedd wedi arwain y frwydr yn erbyn ymosodiadau’r Normaniaid a’r Saeson. Yn 1378, lladdwyd yr olaf o linach wrywaidd Tywysogion Gwynedd, Owain Lawgoch, gan lofrudd yng nghyflogaeth Brenin Loegr. Roedd hawl Owain Glyndŵr i gael ei alw’n Dywysog Cymru yn deillio o’i gysylltiad â’r ddau deulu brenhinol Cymreig arall. Ar ochr ei dad, gallai olrhain ei linach yn ôl at Dywysog Powys yn yr 11eg ganrif, Bleddyn ap Cynfyn. Roedd llinach ei fam yn ymestyn yn ôl i’r un cyfnod, at Rhys ap Tewdwr, Tywysog y Deheubarth.

Gyrfa Filwrol


Dechreuodd gyrfa filwrol Owain Glyndŵr yn 1384, pan fu’n gwasanaethu dan yr arweinydd milwrol enwog, Syr Grigor Sais. Roeddent mewn garsiwn ar y ffin rhwng Lloegr a’r Alban. Y flwyddyn ganlynol, ymladdodd yn Rhyfel Richard II yn erbyn yr Albanwyr, fwy na thebyg dan arweiniad Richard Fitzalan, Iarll Arundel. Bu hefyd yn ymladd ym mrwydr Cadzand, yn 1387, pan chwalwyd llynges Ffrainc a Ffleminaidd. Yn dilyn y frwydr, urddwyd nifer o sgweieriaid Iarll Arundel yn farchogion. Nid oedd Glyndŵr yn eu plith.

Gyrfa Gyfreithol


Yn yr 1380au a’r 1390au astudiodd y gyfraith yn Ysbytyau’r Brawdlys (Inns of Court) yn Llundain. Y tebygrwydd yw mai ei dad yng nghyfraith, Syr David Hanmer, a ysgogodd ef i ddilyn y llwybr hwn. Roedd David wedi priodu ag Angharad, ferch Llywelyn Ddu ap Gruffudd ab Iorwerth Foel, un o'r Cymru pwysicach yn Sir Chirk. Roedd teulu’r Hanmeriaid wedi ymgartrefu ym Maelor Saesneg yn y Gororau, yn ystod teyrnasiad Edward I. Gan mai nhw oedd perchnogion newydd pentref Hanmer, mabwysiadodd y teulu yr un enw, y priododd Owain a Marred, ferch David Hanmer, yn eglwys y pentref.

Cartref Glyndŵr


Sycharth

Canodd Iolo Goch glodydd y cartref, 'Anfynych iawn fu yno Weled na chlicied na chlo……na gwall na newyn na gwaith, na syched fyth yn Sycharth.”

Roedd croeso mawr yn y tŷ sylweddol hwn (gweler panel arddangos yn y Ganolfan)

Glyndyfrdwy

Roedd fferm y teulu yn Rhuddallt ac roedd ganddynt ragor o dir ger Corwen. O’r ardal yma y cymerodd Glyndŵr ei enw, a dyma’r fan lle y cyhoeddodd ei hun yn Dywysog Cymru ym Medi 1400. Roedd perchnogaeth y teulu ar y tiroedd hyn yn groes i’r arfer Gymreig. Mae’n bosibl bod hyn wedi digwydd achos bod tad-cu Owain wedi priodi ag aelod o deulu’r L’Estrange, o Knockin yn Swydd Amwythig, yn gynnar yn y 14eg ganrif. Roedd y drefn yn caniatáu i’r tir fod yn enw’r wraig yn ystod ei hoes a hefyd, iddo gael ei drosglwyddo i’r mab hynaf. Yr arfer Cymreig oedd rhannu’r tir rhwng y meibion. Nid dyna’r unig enghraifft o’r cyswllt agos rhwng Owain ag arferion a chyfraith Lloegr.

Gwrthryfel Glyndŵr


Yn 1400-01, dechreuodd Owain Glyndŵr ar gwrs a fyddai dod yn un o'r cyfnodau mwyaf dramatig yn hanes Cymru. Ei ddadl gyda Reginald de Grey o Ruthun - yn ymwneud â thir cyffredin - daeth i'w ben pan, wedi llawer o apeliadau anwybyddedig i'r Brenin, cymerodd Owain y pwnc yn ei law ei hunan ac ymosododd â Rhuthun.

Yr hynny sydd yn arwyddocaol am y digwyddiad yw'r cyflymder a phlu a trôdd dadl leol rhwng dau arglwydd y mers yn ryfel danbaid yn erbyn y Goron Seisnig. Rhedodd ddynion anhapus o bob math o fywyd i ymuno ag achos Owain, ac felly dangosodd nad oedd y weledigaeth o Gymru annibynnol wedi marw gyda Llywelyn ap Gruffudd yn 1282 wedi'r cwbl.

Ystormodd Gwrthryfel Glyndŵr yn ffyrnig am bron ddegawd ac, er gwaethaf buddugolaethau cynnar syfrdanol a choroni Glyndŵr yn Dywysog Cymru yn 1404, drechu byddai'r ymdrech yn y diwedd. Erbyn 1408-09, roedd yr wrthryfel bron drosodd, cyn gyflym ag y dechreuodd; erbyn 1410, ei arweinydd ysbrydolig a'r ffo, ei yrfa a'i enw da yn chwâl, ei gartref a'i deulu wedi'u dinistrio.

Y mae'n debyg y dreuliodd Owain ei flynyddoedd olaf yn Sir Henffordd, ger maenor ei mab-yng-nghyfraith, Syr John Scudamore, ac o bosib fu fawr tua 1416. Mae lleoliad ei fedd yn anhysbys.









logo CADW a LlCC
Noddwyr y Ganolfan gan CADW a Llywodraeth Cynulliad Cymru