Canolfan Owain Glyndwr CentreENGLISH  
 

Yr Adeilad


Mae ymchwiliadau archaeological diweddar yn dangos bod y Senedd-dy yn dyddio o'r Oesoedd Canal diweddar. Ai dyma'r adeilad lle cerddodd Glyndŵr, Griffith Young, cynrychiolwyr o gymunedau Cymru a chenhadon o’r Alban, Ffrainc a Castile (Sbaen) yn 1404.

Fel y dywedwydd adroddiad i Bwyllgor Datblygu'r Ganolfan yn 2006:-" ... we can be confídent that the building we know as Parliament House was built, or reconstructed, shortly after 1460."

Y Senedd-dŷ ar Heol Maengwyn ym Machynlleth, lle cynhaliwyd Senedd Glyndŵr ym 1404 yn l bob tebyg.
Y Senedd-dŷ
Cliciwch am ddelwedd fwy
Y tebygolrwydd felly yw bod yr adeilad wedi ei adeiladu hanner canrif neu fwy wedi'r cyfarfod hanesyddol, ac ei fod wedi ei adeiladu ar safle'r cyfarfod. Ond pe bai prawf mai ei ail adeiladu a ddigwyddodd, yna byddai lle i gredu bod y Senedd wedi cyfarfod yn yr adeilad presennol. Serch yr ansicrwydd am union ddyddiad ei adeiladu, mae'n enghraifft prin o dŷ tref o'r Oesoedd Canol diweddar yng Nghymru. Mae wedi ei gofrestru ar Raddfa 1 o adeiladau a restrwyd, oherwydd ei bwysigrwydd hanesyddol.



Ychydig a wyddorn am yr adeilad dros y canrifoedd nesaf. Ond erbyn diwedd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg 'roedd ei gyflwr yn dirywio. 'Roedd bwriadau David Davies wrth adnewyddu'r adeilad yn glir. Ei fwriad oedd creu cofadail cenedlaethol i Glyndŵr. Yn ychwanegol at hynny, 'roedd yn cynnig manteision i drigolion lleol megis ystafelloedd pwyllgora a lawnt bowlio yn y cefn.

Tanlinellir ymrwymiad David Davies i goffau Glyndŵr yn y murlun pwysig sydd yn y Senedd-dy. Fel mae Jan Morris yn nodi yn ei llyfr yn 1993, oherwydd brwdfrydedd yr Aelod Seneddol penderfynodd yr arlunydd. Murray Urquhart, roi wyneb David Davies ar gorff Glyndŵr wrth lunio ei furlun o frwydr Hyddgen. Mae'r murlun yn y Senedd-dy hyd heddiw. Ym marn yr arlunydd cyfoes, Peter Lord, y murlun hwn yw'r unig enghraifft o furlun mawr yng Nghymru cyn 1914.

Y Senedd-dy o du cefn

Y Senedd-dy o du cefn


Defnyddiwyd yr adeiladau yn helaeth gan y gymuned leol yn y degawdau wedi'r Rhyfe Mawr. Cyn dyfodiad ceir, 'roedd ffermwyr yn clymu eu ceffylau yn y cefn ar ddiwrnod marchnad. Mae cynghorau lleol wedi defnyddio'r "Institute" dros y blynyddoedd. Yn 1976 daeth Pwyllgor Rheoli newydd i'r adwy pan oedd perygl y byddai'n rhaid gwerthu'r adeilad. Bwriad y Pwyllgor yw gwireddu breuddwyd David Davies.
logo CADW a LlCC
Noddwyr y Ganolfan gan CADW a Llywodraeth Cynulliad Cymru